| Elin
Fflur ~ Ysbryd Efnisien [7 Awst
2006]
Sain SCD2497
 |
Traciau:
1. Ysbryd Efnisien
2. Aros Eiliad
3. Meillionen
|
Mae
gyrfa ELIN FFLUR yn mynd o nerth i nerth, ac yn Eisteddfod
Genedlaethol Abertawe eleni mi fydd Elin yn rhyddhau
ei EP newydd ‘Ysbryd Efnisien’. Tair cân
sydd ar yr EP, dwy gân wreiddiol a fersiwn Elin
o’r gân ‘Meillionen’ gan y Big
Leaves.
Mae
tipyn o hanes i’r EP yn ôl Elin; ‘Tua
blwyddyn yn ôl mi wnes i arwyddo cytundeb rheoli
gyda David Aspden, sef cyn-reolwr Bonnie Tyler am 20
mlynedd. Nes i gyfarfod o mewn stiwdio yn Llundain pan
ges i wahoddiad i ganu gyda grwp o’r enw ITSO
music, daeth dim byd o’r grwp ond nes i gadw mewn
cysylltiad gyda David. Mae’r flwyddyn diwethaf
‘ma wedi bod yn wych, dwi ‘di bod yn ffodus
i gydweithio gyda nifer o bobl dalentog iawn sy’
wedi galluogi fi i roi swn lot fwy aeddfed i’r
hyn dwi’n cyfansoddi.’
Y gobaith yw rhyddhau albwm Gymraeg newydd yn gynnar
yn 2007 a pharhau i weithio ar ddeunydd ar gyfer albwm
Saesneg. Mae Elin yn benderfynol o barhau gyda’i
gyrfa yng Nghymru; ‘dwi’n teimlo bod artistiaid
fel Gruff Rhys ac Euros Childs wedi profi bod modd gwneud
y ddau, ac mae casgliadau fel Welsh Rare Beat hefyd
yn cyflwyno pobl newydd i gerddoriaeth Gymraeg.’
Bydd
Elin yn lansio’r EP newydd yng nghlwb Barons,
Abertawe nos Sadwrn y 5ed o Awst (noson Cymdeithas yr
Iaith gyda Dafydd Iwan ac Ar Log) ac yn Maes-B nos Fercher
Awst y 9fed (gyda Meinir Gwilym a Daniel Lloyd a Mr
Pinc). Ar ôl derbyniad gwresog y Faenol yn 2004
bydd Elin yn ail-droedio’r llwyfan yn noson Tân
y Ddraig, nos Lun yr 28ain o Awst – noson mae
Elin yn edrych ymlaen yn fawr ati.
Mae'r CD ar gael nawr o Na-Nôg, ac hefyd i'w lawrlwytho
o iTunes:
 |
»
cliciwch yma i brynu'r CD o siop Na-Nôg |
 |
»
cliciwch yma i lawrlwytho'r traciau o iTunes |
 |
Os
nad oes gennych chi iTunes yn barod ar eich cyfrifiadur,
mae'n bosib lawrlwytho'r rhaglen drwy glicio yma. |
« nôl i discograffi
|