|
Yn
enedigol o Lanfairpwll, mae Elin Fflur, gyda'i pherfformiadau
angerddol a didwyll a'i llais a'i charisma wedi syfrdanu
ei chynulleidfaoedd led-led Cymru a thu hwnt.
Wedi
llwyddiant cynnar gyda'r grwp Carlotta, daeth Elin Fflur
i sylw cenedlaethol ar ôl perfformio'r gan fuddugol
yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002. Ymunodd
wedyn gyda'r grwp bythol boblogaidd Y Moniars, a rhyddhau
albym lwyddiannus iawn gyda nhw.
Dilynodd
dau albym llwyddiannus arall, y naill gyda Caryl Parry
Jones yn cynhyrchu a'r llall gyda'i band ei hun. Mae
ei chaneuon yn deillio o brofiadau personol , a chyd-gyfansoddodd
nifer o'r caneuon gyda gweddill aelodau'r band.
Mae
Siôn Llwyd yn chwarae'r gitar fas (a'r allweddellau,
gitar acwstig a llais cefn pan fo galw), Jason Huxley
ar y gitar flaen a Deian Elfryn yn drymio. Gyda'i gilydd,
a gyda dawn a llais Elin yn arwain, mae dyfodol disglair
o'u blaenau, ac eisoes mae cynhyrchwyr o sawl gwlad
wedi dangos diddordeb yn y ferch ryfeddol hon o Fôn.
|