Discograffi
 

Elin Fflur ~ Dim Gair [2 Rhagfyr 2003]
Sain SCD2403

Traciau:
1. Dim gair
2. Ydio'n deg? [MP3]
3. Ddoi'm yn ôl [MP3]
4. Pan ddaw'r haul
5. Mae'r ysbryd yn troi
6. Tybed lle mae hi heno? [MP3]
7. Paid troi dy gefn
8. Y llwybr lawr i'r dyffryn
9. Ar lan y môr
10. Syrthio
11. Unwaith
12. Gwylio sêr y nos [MP3]

Gyda’r pleser mwyaf mae cwmni recordiau Sain yn cyhoeddi cryno ddisg cyntaf unigol y gantores ifanc o Fôn, Elin Fflur. Wedi llwyddiant cynnar gyda’r grwp Carlotta, daeth Elin i sylw cenedlaethol ar ôl perfformio’r gân fuddugol yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002. Ymunodd wedyn gyda’r grwp bythol boblogaidd – Y Moniars gan fwynhau llwyddiant digymar gyda chyhoeddi eu CD cyntaf gydag Elin fel prif leisydd – Harbwr Diogel (Sain SCD2380).

Bellach, mae Elin Fflur wedi mentro fel cantores unigol ac yn ymuno â llinach gre y gantores/gyfansoddwraig Gymraeg. Mae ei chaneuon yn deillio o brofiadau personol neu rai sy’n agos ati ac mae pob cân ar y CD yn berfformiad angerddol a didwyll gan Elin gyda’r llais a’r carisma sydd wedi syfrdanu ei chynulleidfaoedd. Mae’r casgliad yma o’i chaneuon yn brawf pendant o’i dawn fel cantores a chyfansoddwraig.

Er mwyn tynnu’r gorau o’r caneuon ac ohoni hi ei hun, mae Elin wedi ymuno â thîm cynhyrchu profiadol a chyffrous. Mae Christian Phillips, Rob Reed a Nigel Hopkins yn dri o’r cerddorion mwyaf dawnus yn y wlad ac yn gynhyrchwyr a threfnwyr o’r radd flaenaf ym mhob genre. Mae’r cyfuniad rhyngddyn nhw ag Elin, felly, yn un i’w ryfeddu fel y cewch glywed a mwynhau ar y CD hwn.


Mae'r CD ar gael nawr o Na-Nôg, ac hefyd i'w lawrlwytho o iTunes:

» cliciwch yma i brynu'r CD o siop Na-Nôg
» cliciwch yma i lawrlwytho'r traciau o iTunes

Os nad oes gennych chi iTunes yn barod ar eich cyfrifiadur, mae'n bosib lawrlwytho'r rhaglen drwy glicio yma.


«
nôl i discograffi

Mae Elin Fflur yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497

miwsig@sainwales.com - www.sainwales.com
Gwefan: © eurigroberts.com 2006